Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (256) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar gamau gweithredu sy’n deillio o adroddiadau’r Pwyllgor Menter a Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.32
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cryfhau Polisi Caffael
Dechreuodd yr eitem am 15.06
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Adolygiad o’r Diwydiant Llaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.40
6 Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 16.22
NDM5732 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog
27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddraft o'r Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015
yn cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5731 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog
27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat
(Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol
â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2
Mawrth 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.55
NDM5729 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
26.11:
Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Cymwysterau Cymru.
Gosodwyd Bil
Cymwysterau Cymru a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar
1 Rhagfyr 2014; gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg ar Bil Cymwysterau Cymru gerbron y Cynulliad
ar 13 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar Fil Cymwysterau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.34
NDM5730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil
Cymwysterau Cymru, yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r
math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad
i'r Bil.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Daeth y cyfarfod i ben am 17.38
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 25 Mawrth 2015